At:
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan:
Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod: 16 Gorffennaf
2014
Diben
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
Cefndir
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fis Medi hyd at fis Rhagfyr 2014.
3.
Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo
Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a
hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn
cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor.
Argymhelliad
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
ATODIAD A: AMSERLEN Y PWYLLGOR YN NHYMOR YR HYDREF 2014
Dydd Iau 18 Medi 2014 (bore a phrynhawn)
· Ymchwiliad i’r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser: ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
· Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol: sesiwn dystiolaeth ar ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol (cyhoeddus)
· Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weindog Gwasanaethau Cymdeithasol (cyhoeddus)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd: ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
Dydd Mercher 24 Medi 2014 (bore yn unig)
· Gwaith dilynol ar yr ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog (cyhoeddus)
· Trafodaeth gychwynol ar flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2015 (preifat)
· Sesiwn friffio ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”) (preifat)
Dydd Iau 2 Hydref 2014 (bore a phrynhawn)
· Gweithgareddau ymgysylltu ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”) (anffurfiol)
Dydd Mercher 8 Hydref 2014 (bore yn unig)
· Y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus: sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru (cyhoeddus)
· Gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: ystyried y dystiolaeth ysgrifenedig (preifat)
· Ystyried dull gweithredu’r Pwyllgor ar gyfer ei waith dilynol ar yr ymchwiliadau i farwenedigaethau, atal thrombo-emboledd gwythiennol, a’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol[1] (preifat)
Dydd Iau 16 Hydref 2014 (bore a phrynhawn)
· Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol: ystyried yr adroddiad drafft (preifat)
· Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2015 (preifat)
· Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru: sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog (cyhoeddus)
Dydd Mercher 22 Hydref 2014 (bore yn unig)
· Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol (cyhoeddus)
· Gwaith dilynol ar yr ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: ystyried yr allbwn drafft (preifat)
· Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru: ystyried yr allbwn drafft (preifat)
Dydd Llun 25 Hydref – dydd Sul 30 Tachwedd 2014: toriad
Dydd Iau 6 Tachwedd 2014 (bore a phrynhawn)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y dystiolaeth (preifat)
Dydd Mercher 12 November 2014 (bore yn unig)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y dystiolaeth (preifat)
Dydd Iau 20 Tachwedd 2014 (bore a phrynhawn)
· Craffu cyffredinol ar y Prif Swyddog Meddygol: ystyried yr allbwn drafft (preifat)
· Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: briff ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru (cyhoeddus)
· Gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog (cyhoeddus)
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2014 (bore yn unig)
· Sesiwn graffu cyffredinol gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (cyhoeddus)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog (cyhoeddus)
Dydd Iau 4 Rhagfyr 2014 (bore a phrynhawn)
· Busnes i’w gadarnhau
Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014 (bore yn unig)
· Bil Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys: ystyried y dull gweithredu ar gyfer Cyfnod 1[2](preifat)
· Gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: ystried yr adroddiad drafft (preifat)
· Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y prif faterion (preifat)
[1] I’w nodi, mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ddiweddariad ar y cynnydd sydd wedi’i wneud i weithredu argymhellion y Pwyllgor er mwyn llywio’r drafodaeth hon. Bydd y diweddariadau yma yn cael eu cyhoeddi unwaith i’r Pwyllgor eu derbyn.
[2] Mae gofyn i’r Bil gael ei gyflwyno erbyn 3 Rhagfyr 2014. Os cyflwynir y Bil ynghynt bydd yr eitem yn cael ei ail-amserlenni fel bo angen.